DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

Y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio – Gwelliannau Prynu Gorfodol – Gwerth Gobeithiol ac Iawndal

DYDDIAD

18 Awst 2023

GAN

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

 

 

Caiff y datganiad ysgrifenedig hwn ei osod o dan Reol Sefydlog 30 – Hysbysu mewn perthynas â Biliau Senedd y DU. Mae’n ymwneud â Gwelliant 412D[1] Llywodraeth y DU, a gyflwynwyd ar 13 Mawrth 2023 yn ystod Cyfnod Pwyllgor Tŷ’r Arglwyddi, yn y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio (“y Bil”) a fydd yn addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru ond nid oes angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29, gan nad oes gan Senedd Cymru gymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â’r ddarpariaeth gwelliant. Cyflwynwyd y Bil yn Senedd y DU, yn Nhŷ’r Cyffredin ar 11 Mai 2022.

 

Roedd cydsyniad deddfwriaethol y Senedd yn ofynnol ar gyfer darpariaethau eraill yn y Bil o ran cynllunio defnydd tir; adroddiadau canlyniadau amgylcheddol ar gyfer cydsyniadau penodol; gwybodaeth a chofnodion yn ymwneud â thir, yr amgylchedd neu dreftadaeth; llywodraethiant Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig; crwydraeth a chardota. Gosodais Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol[2] a Datganiad Ysgrifenedig[3] gerbron Senedd Cymru ar 28 Medi 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29 a 30 yn y drefn honno. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig[4] ar 25 Tachwedd 2022. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol[5] ar 30 Tachwedd 2022 mewn perthynas â sawl gwelliant gan Lywodraeth y DU a gyflwynwyd yn ystod Cyfnod Adrodd Tŷ’r Cyffredin. Gosodwyd Datganiad Ysgrifenedig[6] ar 21 Mawrth ynghylch gwelliannau Llywodraeth y DU mewn perthynas â thrafodion rhithwir. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol[7]atodol pellach ar 27 Ebrill 2023 mewn perthynas â gwelliannau i Adroddiadau Canlyniadau Amgylcheddol, a oedd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Yr un diwrnod gosodais Ddatganiad Ysgrifenedig[8]pellach mewn perthynas â gwelliannau i ddarpariaethau Rhan 9 Prynu Gorfodol a Gwerth Gobeithiol.

 

Y gwelliannau perthnasol

 

Mae’r gwelliant a gyflwynwyd yn mynd i’r afael ag iawndal prynu gorfodol drwy ddarparu pŵer galluogi i Weinidogion Cymru i geisio cyfarwyddydau i ddileu gwerth gobeithiol o iawndal prynu gorfodol ar gyfer caffael tir drwy Orchmynion Prynu Gorfodol a wnaed o dan Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (WDAA 1975).

 

Mae ‘gwerth gobeithiol’ yn cyfeirio at gynnydd yng ngwerth tir wrth ystyried pa ganiatâd cynllunio y gellid ei roi pe na bai'r cynllun prynu gorfodol yn mynd rhagddo. Mae'r gwelliannau yn cynnwys mewnosodiadau yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (gweithdrefn ar gyfer caffael gorfodol o dan y Ddeddf honno) sy'n nodi'r weithdrefn y bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru ei dilyn os ydynt yn gwneud cyfarwyddyd bod iawndal i'w asesu yn unol ag adran 14A o Ddeddf Digollediad Tir 1961. Mae'r weithdrefn yn cynnwys paratoi datganiad o ymrwymiadau sy'n nodi bwriadau'r caffaeliad sy'n cynnwys darparu nifer penodol o unedau o dai fforddiadwy. Felly, mae cynnwys y pŵer hwn yn dod â manteision sylweddol posibl yng nghyd-destun adfywio a thai.

 

Mae'r gwelliannau a osodwyd hefyd yn ymestyn y pŵer i gyfarwyddydau gael eu ceisio i ddileu gwerth gobeithiol o iawndal prynu gorfodol ar gyfer Gorchmynion Prynu Gorfodol i'r rheini a wneir gan Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru o dan baragraff 27 o Atodlen 3 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

 

Mae'r gwelliannau a osodwyd hefyd yn newid y diffiniad o “uned o dai fforddiadwy” i sicrhau bod y diffiniad presennol o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 yn cael ei wneud yn gywir i fod yn gymwys yng Nghymru.

 

Fel y nodais yn fy Natganiadau Ysgrifenedig[9] dyddiedig 28 Medi 2022, 21 Mawrth 2023 a 27 Ebrill 2023 yn ymwneud â’r Bil, mae cymhwysedd Senedd Cymru yn gyfyngedig mewn perthynas â phrynu gorfodol mewn meysydd datganoledig, gan gynnwys tai a chynllunio defnydd tir. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod rhaid i unrhyw addasiadau arfaethedig i gyfraith prynu gorfodol, drwy gyfrwng deddfwriaeth sylfaenol, fod yn glir yng nghyd-destun newidiadau penodol i gyfraith cynllunio defnydd tir neu unrhyw fater arall nas cedwir yn ôl. Nid yw Senedd Cymru, felly, yn gallu addasu cyfraith prynu gorfodol yn gyffredinol neu er ei mwyn ei hun neu i gyflawni canlyniadau a gedwir yn ôl. Mae hyn yn atal Senedd Cymru rhag addasu’r rheolau cyffredinol ynghylch prynu gorfodol ac iawndal ar gyfer caffael gorfodol mewn deddfwriaeth megis Deddf Caffael Tir 1981 mewn perthynas â phob caffaeliad gorfodol yng Nghymru.

 

Bydd y ddarpariaeth yn ychwanegu agwedd ychwanegol at swyddogaethau presennol Gweinidogion Cymru yn eu rôl fel awdurdod cadarnhau. Felly, mae'r ddarpariaeth yn dod o dan Reol Sefydlog 30 ar gyfer darpariaethau a fydd yn addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru, ond nid oes angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog Rhif 29.

 

Rhesymau dros wneud y ddarpariaeth

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella'r broses o ran prynu gorfodol er mwyn ei gwneud yn decach, ac yn fwy effeithlon ac eglur. Ein blaenoriaeth yw cael gwared ar rwystrau i bwerau prynu gorfodol gan awdurdodau lleol, ac annog mwy o ddefnydd ohonynt, drwy symleiddio a moderneiddio'r broses brynu gorfodol. Rydym o'r farn bod y gwelliannau yn welliant drwy ailgydbwyso'r sefyllfa rhwng yr awdurdod caffael a’r perchennog tir.

 

Rwyf o'r farn ei bod yn briodol i'r ddarpariaeth mewn perthynas â phrynu gorfodol fod yn gymwys mewn perthynas â Chymru ac iddi gael ei chynnwys yn y Bil hwn.

 

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Pe bai aelodau'n dymuno i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.



[1] https://bills.parliament.uk/publications/50270/documents/3123

[2] lcm-ld15356-w.pdf (senedd.cymru)

[3] gen-ld15357-w.pdf (senedd.cymru)

[4] lcm-ld15495-w.pdf (senedd.cymru)

[5] slcm-ld15508-w.pdf (senedd.cymru)

[6] Datganiad Ysgrifenedig: Y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio – Gwelliannau ynghylch Trafodion Rhithwir (21 Mawrth 2023) | LLYW.CYMRU

[7] slcm-ld15802-w.pdf (senedd.cymru)

[8] Datganiad Ysgrifenedig: Y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio – Gwelliannau Prynu Gorfodol – Gwerth Gobeithiol ac Iawndal (27 Ebrill 2023) | LLYW.CYMRU

[9]gen-ld15357-w.pdf (senedd.cymru) Datganiad Ysgrifenedig: Y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio – Gwelliannau ynghylch Trafodion Rhithwir (21 Mawrth 2023) | LLYW.CYMRU Datganiad Ysgrifenedig: Y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio – Gwelliannau Prynu Gorfodol – Gwerth Gobeithiol ac Iawndal (27 Ebrill 2023) | LLYW.CYMRU